Mae ymuno yn hawdd a’r cyfan sydd raid i chi ei wneud yw lawrlwytho’r ffurflen o’r linc isod, ei llenwi a’i hanfon i swyddfa WHA Caerdydd. Mi wnawn ni anfon cadarnhad o’ch aelodaeth atoch a chymryd y tâl aelodaeth a ddewiswyd gennych o’ch cyfrif banc bob mis.

Does dim rhaid cael archwiliad meddygol cyn i chi ymuno ond ni fyddwn yn talu budd-dal am gyflyrau meddygol a oedd yn bodoli cyn dyddiad cychwyn eich aelodaeth.

 

 

Mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau ar ffurflen hawlio budd-dal swyddogol a’u hanfon i:

Cymdeithas Gwasanaethau Iechyd ac Ysbytai Cymru,
60 Heol Casnewydd,
Caerdydd,
CF24 0YG

Ffôn: 029 2048 5461

 

 

Defnyddiwch y ffurflen yma i barhau â’ch aelodaeth pan fydd tanysgrifiadau o’ch cyflog neu’ch pensiwn yn dod i ben.

 

 

Mae rhestr lawn o fudd-daliadau ac amodau cyffredinol yn y ddogfen yma

 

Mae angen Adobe Reader arnoch er mwyn gweld y ffurflenni, gallwch ei lawrlwytho AM DDIM