A oeddech chi’n gwybod y gallwch chi wneud cais am gynllun Gofal Iechyd arian parod WHA drwy eich gweithle a bydd y ffi yn cael ei didynnu’n awtomatig o’ch cyflog bob mis?
Mae’r tabl yn dangos yr ystod lawn o fuddion arian parod sydd ar gael pan fyddwch wedi ymuno â’r cynllun.
Mae aelodaeth o gynlluniau Personol a Partneriaid WHA yn cynnwys sicrwydd am ddim ar gyfer unrhyw ddibynyddion sy’n blant o dan 18 oed. Buddion y cynllun i blant yw buddion claf mewnol yn yr ysbyty, claf allanol yn yr ysbyty ac ymgynghoriad arbenigol.
Mae’n hawdd ymuno
Cliciwch ar y ddolen i lawrlwytho ffurflen gofrestru a mwynhewch y sicrwydd tuag at gostau optegol, deintyddol, triniaethau cyflenwol fel ffisiotherapi, a llawer mwy. A hyn i gyd am gyn lleied â £6.28 y mis!
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw anfon neu fynd â’r ffurflen wedi’i llenwi i’ch Swyddfa Taliadau a byddant yn trefnu i’r arian gael ei dynnu yn uniongyrchol o’ch cyflog misol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen yr Amodau Buddion a’r Amodau Cyffredin cyn llenwi’r ffurflen.
Eisiau ymuno? Lawrlwythwch ffurflen gofrestru yma
Mae hawlio yn syml
Cewch lawrlwytho ffurflen hawliadau yma. Llenwch y ffurflen a’i hanfon i WHA gyda’r wybodaeth sydd ei hangen, a chaiff eich buddion eu talu’n brydlon, o fewn 2 ddiwrnod gwaith o’r hawliad fel arfer.
Sylwer: Ni thelir budd ar gyfer cyflyrau sydd eisoes gennych ac ni thelir budd mamolaeth ar gyfer genedigaethau yn ystod 12 mis cyntaf o’ch aelodaeth.
CYNNIG ARBENNIG
Sicrwydd budd ar unwaith#
Dewisiadau Cynllun WHA
Cynlluniau Personol |
Personol 145 |
Personol 235 |
Personol 325 |
Cynlluniau Partneriaid |
Partneriaid 290 |
Partneriaid 470 |
Partneriaid 650 |
Buddion Oedolion |
Eich buddion arian parod – uchafswm buddion mewn cyfnod o ddwy flynedd |
||
Deintyddol |
£80 |
£125 |
£175 |
Optegol |
£80 |
£125 |
£175 |
Ffisiotherapi |
£150 |
£200 |
£250 |
Osteopatheg |
£150 |
£200 |
£250 |
Ceiropracteg |
£150 |
£200 |
£250 |
Aciwbigo |
£150 |
£200 |
£250 |
Triniaeth Traed |
£75 |
£100 |
£125 |
Claf mewnol |
£1,620 |
£2,160 |
£3,150 |
Claf allanol |
£50 |
£70 |
£90 |
Ymgynghoriadau |
£200 |
£300 |
£400 |
Mamolaeth |
£120 |
£175 |
£225 |
Damwain Bersonol |
n/a |
£10,000† |
£10,000† |
Buddion Plant |
Eich buddion arian parod - uchafswm buddion mewn cyfnod o ddwy flynedd |
||
Claf mewnol – plentyn■ |
£630 |
£900 |
£1,170 |
Claf mewnol – plentyn (y dydd) |
£7 |
£10 |
£13 |
Claf allanol – plentyn■ |
£50 |
£70 |
£90 |
Ymgynghoriadau – plentyn■ |
£100 |
£150 |
£200 |
Ymunwch Nawr!
Lawrlwythwch ffurflen gofrestru, ei llenwi a’i rhoi i’ch Swyddfa Taliadau.